Ar un adeg roedd Ieuan Rhys ar y teledu’n gyson. Roedd yn chwarae rhan heddwas ar Pobol y Cwm ar un adeg, yn cyflwyno Sion a Sian, a chafodd ran yn y ffilm Ar y Trac.

Ond mae e nawr wedi troi at fyd theatr, ac er ei fod wrth ei fodd, meddai, mae’n cyfaddef y byddai’n hoffi mynd yn ôl i wneud mwy ym myd teledu.

Mae’r actor a gafodd ei eni’n Nhrecynon ger Aberdâr yn gorfod mynd “lle mae’r gwaith”, meddai wrth Golwg 360.

“Gweithio trwy gyfrwng y Saesneg ydw i nawr, rhaid mynd lle mae’r gwaith. Bydden i’n lico gwneud bach mwy o deledu, ond does dim dramâu yn cael eu gwneud oherwydd toriadau S4C,” meddai.

Ar wahân i ddramâu fel Gwaith Cartref, Teulu ac ati, prin iawn yw’r cynyrchiadau erbyn hyn.

“Arfer bod, roedd ryw ffilm neu gynhyrchiad yn cael eu gwneud yn aml,” meddai eto.

Actio’r tad sy’n ‘cega ar y gogs’

Mae e ar hyn o bryd ar fin mynd ar daith o gwmpas theatrau Cymru, yn y ddrama gomedi Whose Coat is That Jacket.

“Mae’r ddrama wedi ei seilio ar deulu o Drimsaran, gyda’r mab wedi priodi â Saesnes, a hithau ddim yn ffitio mewn yn yr ardal.

“Mae’r mab yn ddigon hapus i fyw yno, ac yn dibynnu lot ar ei fam, sy’n ei faldodi,” meddai’r actor, sy’n chwarae rhan y tad yn y ddrama gomedi.

Mae’r elfen o gomedi yn dod wrth y rhieni, meddai, ac mae’r tad yn dipyn o gymeriad.

“Mae e bach yn backward, os alla i ddweud y fath beth. Mae rhai pethau sy’n dod mas o’i geg yn hala fi i feddwl a ydy’r boi yma’n gall,” meddai Ieuan Rhys.

“Mae e’n cega ar y gogs, mae’n anhygoel beth sy’n mynd trwy ei feddwl. Er, mae e’n foi hen ffasiwn yn y bon.”

Mae’r fam yn un reit penderfynol – yn cadw pawb adre, o’i chwmpas hi.

“Os oes yna baddie, y fam yw honno. Mae’n control freak, yn cadw pawb yn ardal Trimsaran.”

Bydd y daith yn dechrau yn Theatr y Grand yn Abertawe wythnos nesa, cyn mynd ar daith o gwmpas y wlad, yna gorffen yn y New Theatre yng Nghaerdydd.

“Bydd e’n neis i gael yr amrywiaeth,” meddai Ieuan Rhys. “Dechrau a gorffen mewn theatrau sy’n dal bron i fil o bobol, yna mynd i theatrau llai.”

Mae e’n edrych ymlaen at gael ymateb gwahanol trwy gydol y daith.

“Ry’n ni’n gwybod bod ambell i lein yn mynd i gael laff ym mhob man. Ond mae pobol o wahanol ardaloedd yn mynd i chwerthin ar bethau gwahanol. Dyna sy’n grêt am gomedi,” meddai.

Mae manylion y daith yn fan hyn.

Llinos Dafydd