Abertawe
Mae dinas Abertawe wedi cael ei dewis i gynnal gŵyl ryngwladol o bwys sy’n enwog am ddenu rhai o enwau mwyaf yn y byd darlledu a ffilm.

Bydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd flynyddol, sydd bellach ar ei 34ain flwyddyn, yn dod i Abertawe rhwng 24 a 26 Ebrill 2013.

Bydd y digwyddiad tri diwrnod sy’n ddathliad o ddarlledu a thalent ffilm yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Marriott Abertawe a bydd yn arddangos y gwaith gorau o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Cernyw a Llydaw.

Nod yr ŵyl yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau unigryw’r rhanbarthau Celtaidd ar y sgrin ac yn y byd darlledu.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd i Abertawe yn 2013. Mae Abertawe yn ddinas a chanddi dreftadaeth gyfoethog a chymuned Gymreig arbennig o fywiog felly rydyn ni’n sicr bod y ddinas yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal yr ŵyl y flwyddyn nesaf,” meddai Dhomhnall Caimbeul, Cadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
“Mae ein gŵyl yn denu cynrychiolwyr o bob cwr o’r rhanbarthau Celtaidd ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n mwynhau popeth sydd gan Abertawe a De Cymru i’w gynnig.”

Mae disgwyl i’r ŵyl ddenu rhai enwau adnabyddus a siaradwyr dylanwadol yn y diwydiant i’r ddinas.

Ymhlith gwesteion anrhydeddus y gorffennol mae’r actorion Tilda Swinton, Rhys Ifans a Peter Mullan, y cynhyrchwr ffilm Ken Loach, sgriptiwr Jimmy McGovern a chynhyrchydd Doctor Who a Torchwood, Russell T Davies.

Er bod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn bennaf ar gyfer cynrychiolwyr o fewn y diwydiant, bydd rhaglen ehangach o ddangosiadau lleol, arddangosfeydd, adloniant min nos a chyfweliadau gydag enwogion ar agor i’r cyhoedd, gan gynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr a seminarau ar gyfer myfyrwyr lleol.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn cael ei chynnal yn Abertawe am y tro cyntaf,” meddai’r Cynghorydd David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe.

“Rydyn ni’n hynod falch o’n treftadaeth ddiwylliannol ac mae cysylltiad hir rhwng y ddinas â phob agwedd o’r diwydiant cyfryngau; o Dylan Thomas yn y BBC i Russell T Davies ac adfywiad y gyfres Dr Who.

“Fel dinas, rydyn ni’n parhau i fagu talentau’r dyfodol yn ein Prifysgolion ym mhob math o feysydd – o animeiddio i newyddiaduraeth ddarlledu.

“Bydd cynrychiolwyr fydd yn mynychu’r ŵyl yn cael cyfle i brofi atyniadau a lleoliadau treftadaeth Abertawe yn ystod eu hymweliad â’r ddinas, ynghyd â bwrlwm y ddinas gyda’r nos.”

Mae’r gwobrau’n dathlu ffilmiau, rhaglenni teledu, radio a chyfryngau digidol sydd wedi dod i’r amlwg o fewn y gwledydd Celtaidd gydag ieithoedd Celtaidd yn amlwg iawn ym mhob categori.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan reithgor rhyngwladol.