Michael Gove
Mae Ysgrifennydd Addysg San Steffan wedi lladd ar Weinidog Addysg Cymru tra’n rhoi tystiolaeth ar helynt graddau TGAU gerbron pwyllgor o Aelodau Seneddol yn Llundain.

Dywedodd Michael Gove fod penderfyniad Leighton Andrews i orfodi ail-raddio papurau TGAU wedi bod yn “anghyfrifol ac yn anghywir” a’i fod wedi “tanseilio hyder yng nghymwysterau TGAU plant Cymru.”

Galwodd Michael Gove ar Leighton Andrews i “feddwl eto”  a chyhuddodd ef o wneud “ymyrraeth wleidyddol anffodus.”

“Y plant sydd wedi cael eu rhoi dan anfantais yw plant Cymru,” meddai Michael Gove.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan fod “gwersi i’w dysgu” o’r helynt dros raddau TGAU a bod hyn yn ei arwain i feddwl fod angen diwygio cymwysterau addysg.

Mae Leighton Andrews wedi galw ar CBAC i ail-raddio papurau arholiadau Saesneg, gan ddweud fod rhai disgyblion wedi cael cam am fod ffiniau gradd wedi cael eu newid.

Dywedodd ei bod hi’n “ffodus fod gyda ni yng Nghymru system reoleiddio sy’n caniatáu i ni ddatrys anghyfiawnder yn gyflym.”

Ymateb Leighton Andrews

Dywedodd Leighton Andrews fod Michael Gove wedi cael “nifer o bethau sylfaenol yn anghywir heddiw.”

“Yn amlwg mae’n gweddu iddo fe droi’r argyfwng yn Lloegr i mewn i ffrae wleidyddol gyda Llafur yng Nghymru ond rydym ni am gadw at y ffeithiau a’r mater wrth law. Mae’r disgyblion yn haeddu atebion plaen, nid chwarae gemau gwleidyddol.

“Mae pawb yn derbyn fod carfan o ddisgyblion wedi cael eu trin yn annheg. Os yw Mr Gove ac Ofqual am oddef annhegwch yna mae hynny’n fater iddyn nhw. Rydym ni wedi penderfynu gweithredu, ar sail tystiolaeth a chyngor cymwys, i sicrhau fod buddiannau disgyblion Cymru yn cael eu diogelu.

“Nid yw’n fai arnon ni fod y system reoleiddiol yn Lloegr mewn argyfwng,” meddai Leighton Andrews.

Plaid yn mynnu atebion

Yn y cyfamser, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas wedi gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Christine Chapman i gynnal cyfarfod pwyllgor er mwyn trafod gweithredoedd CBAC a Leighton Andrews.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas: “Rydym wedi bod yn galw am reoleiddio gwell o arholiadau ers misoedd, cyn i’r ffrae hon am raddau TGAU godi. Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd a Chlerc  Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad gan ofyn am gynnull y pwyllgor er mwyn cael atebion am y penderfyniadau a wnaed gan CBAC a Gweinidog Addysg Cymru yn ystod llanastr TGAU eleni.

“Mae’n bwysig fod cyfle i Aelodau Cynulliad graffu ar benderfyniadau a wnaed gan y Gweinidog yng Nghrymu a’r  corff arholi. Byddai hyn yn cryfhau atebolrwydd Llywodraeth Cymru fel rheoleiddiwr arholiadau.

“Mae pwyllgorau San Steffan wedi gallu cwestiynu a chraffu ar weinidogion a rheoleiddiwr. Mae Leighton Andrews yn Weinidog a rheoleiddiwr yng Nghymru, felly mae’n fwy hanfodol ein bod ni yn cael cyfle i archwilio ei weithredoedd.”

Mae Simon Thomas wedi cyflwyno cwestiynau ar bapur i Lywodraeth Cymru, yn gofyn am eglurhad pryd y cafodd y grym ei ddefnyddio gan weinidogion yn y gorffennol i orchymyn bod papurau arholiad yn cael eu hail-farcio.

Gofynnodd hefyd ynghylch y trafodaethau y mae Leighton Andrews wedi eu cael gyda CBAC ac OFQUAL ar fater newid terfynau graddau.