Iwan Roberts
Mae cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wedi dweud fod chwaraewyr Cymru yn chwarae “fel tasai pwysau’r byd ar eu sgwyddau” ac yn cwestiynu rôl Aaron Ramsey yn gapten.

Y golled drom i Serbia neithiwr oedd pedwaredd gêm Chris Coleman wrth y llyw, a’r bedwaredd golled, ond dywed Iwan Roberts ei fod yn cydymdeimlo gyda’r rheolwr.

“Gallwch chi baratoi’r tîm yn drylwyr ond gallwch chi ddim paratoi at y camgymeriadau a wnaeth Cymru neithiwr.

“Ar wahân i gôl gyntaf Serbia roedd y goliau’n rhai blêr a waeth i ni daflu’r tywel i mewn rŵan os ydyn nhw am chwarae fel yna eto yn ymgyrch cwpan y byd.”

“’Dan ni ddim yn edrych chwarter y tîm oeddan ni a dyw’r chwaraewyr ddim yn edrych fel tasan nhw’n mwynhau bod ar y cae,” meddai Iwan Roberts, a chwaraeodd 15 o weithiau dros Gymru

Ramsey’r Capten

Mae perfformiadau diweddar Ramsey dros Arsenal a thros Gymru wedi cael eu beirniadu, a neithiwr dywedodd cyn-gapten Cymru, Kevin Ratcliffe, fod angen ei adael allan o’r tîm er mwyn iddo gael ei hyder yn ôl.

Mae Iwan Roberts yn cytuno.

“Tasa Aaron Ramsey ddim yn gapten fasa fo ddim yn cael ei ddewis y ffordd mae o’n chwarae ar hyn o bryd,” meddai Iwan Roberts.

“Mae Chris wedi parhau gyda Ramsey yn gapten ond yn bersonol baswn i wedi mynd am Ashley Williams, sy’n fwy o bresenoldeb ar y cae.

“Mae angen capten sy’n graig ar y cae ac sy’n cyfathrebu gyda’r chwaraewyr, a dydy Ramsey ddim fel yna.

“Mae o wedi cael amser anodd yn ddiweddar yn Arsenal, a chafodd o anaf ofnadwy pan dorrodd o ei goes, felly dwi’n cydymdeimlo gyda’i sefyllfa fo.”

Coleman y Rheolwr

Mae pwysau mawr ar Chris Coleman ar ôl dim ond pedair gem yn rheolwr Cymru, a dywedodd Iwan Roberts y bydd nifer yn cwestiynu ei apwyntiad ef ond fod angen rhoi amser iddo yn y swydd.

“Dwi’n nabod Chris ers rhai blynyddoedd a dwi’n gwybod y bydd o’n brifo ar ôl y perfformiad yna neithiwr.

“Ond mae o’n ddyn penderfynol sydd wedi bownsio yn ôl yn y gorffennol ar ôl colli ei swydd gyda Fulham a chael amser anodd yn Coventry.

“Mae ganddo’r cymeriad a’r profiad i dynnu ni allan o’r rhediad yma. Mae angen i ni fynd yn ôl i fwynhau chwarae achos ‘dan ni’n ceisio pasio’r bêl fel oeddan ni dan Gary Speed ond dydy’r chwaraewyr ddim yn edrych fel tasan nhw’n gallu gwneud.

“Rydan ni wedi colli chwaraewyr allweddol fel Hennessey a Bellamy, sy’n ergyd i Chris, ond dydy’r ymgyrch ddim ar ben eto.

“Mae’n mynd i fod yn anodd yn y grŵp o hyn ymlaen ond un llygedyn o obaith o neithiwr yw bod y pedair gwlad  arall wedi cael gêm gyfartal.”