Seremoni cloi'r Gemau Paralympaidd
Daeth y Gemau Paralympaidd i ben neithiwr gyda seremoni liwgar a soniarus yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain.
Canodd y band Coldplay am bron i awr, a pherfformiodd Rihanna a Jay-Z hefyd o flaen y dorf lawn o 80,000.
Nid yw’r dathliadau i gyd ar ben achos mae disgwyl i filoedd o bobol wylio gorymdaith yn Llundain heddiw i glodfori athletwyr Olympaidd Prydain.
Bydd sêr megis Mo Farah, Jessica Ennis, Chris Hoy a Victoria Pendleton, yn ogystal â sêr paralympaidd megis Hannah Cockcroft a Jonnie Peacock, yn ymddangos ar 21 fflôt a fydd yn nadreddu eu ffordd trwy strydoedd Llundain.
Paralympwyr Cymru: 15 medal
Llwyddodd paralympwyr Cymru i ennill 15 medal, un yn fwy na Beijing 2008.
Roedd y nofwraig Ellie Simmonds, sy’n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe, hefyd wedi ennill tair medal ychwanegol, ond dyw hi ddim yn rhan o raglen Chwaraeon Cymru.
Roedd Chwaraeon Anabl Cymru wedi gosod targed o 30 medal yn Llundain ac yn Rio 2016, a tharged ymestynnol o 40 medal yn y ddau ddigwyddiad.
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura McAllister, fod athletwyr Cymru “wedi gwneud yn wych,” a dywedodd ei bod hi’n gobeithio y bydd pobol yn tyrru i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener er mwyn cyfarch yr athletwyr.
Roedd 38 o Gymry yn aelod o garfan Baralympaidd Prydain, a dywed Cadeirydd Chwaraeon Anabl Cymru, Gareth John, fod gorchest y Cymry yn “syfrdanol” o ystyried bod llawer o bencampwyr Paralympaidd wedi ymddeol ar ôl Beijing 2008.
“Rydym ni wedi meithrin cenhedlaeth newydd o athletwyr o’r radd flaenaf,” meddai Gareth John.