Mae’r chwaraewr pêl droed Craig Bellamy wedi datgelu ei fod yn mynd trwy “adeg waethaf ei fywyd” yn dilyn marwolaeth un o’i ffrindiau gorau, Gary Speed.

Cafodd corff Speed, oedd yn reolwr ar Gymru ar y pryd, ei ddarganfod fis Tachwedd y llynedd, ac yntau’n 42 oed.

Mae Bellamy, a oedd yn chwarae gyda’r canolwr i Newcastle a thîm Cymru, yn cyfaddef ei fod wedi “effeithio ar bopeth”, gan gynnwys ei briodas.

Dywedodd cyn-ymosodwr Lerpwl a Manchester City, 33, wrth y Sunday Mirror er fod wedi symud allan o’r tŷ, gan adael ei wraig a’u tri o blant.

“Mae colli fy ffrind gorau wedi effeithio ar bopeth. Dw i ddim yn gallu credu pa mor anodd yw pethau,” meddai.

“Fe oedd y ffrind gorau i mi erioed ei gael. Mae’n drist ac, yn anffodus, mae wedi effeithio ar fy mhriodas.

“Dw i ddim yn siŵr os mae fel hyn fydd hi. Y cyfan dw i’n gwybod yw bod fy ffrind gorau wedi mynd. Dw i’n ei chael hi’n anodd.”

Roedd Bellamy yn rhan o’r tîm GB yn y Gemau Olympaidd eleni, ac fe wnaeth ymuno a Chaerdydd fis diwethaf mewn cytundeb dwy flynedd o Lerpwl.