Gary Speed
Mae peidio gwybod pam y bu eu mab farw wedi gwneud dod i delerau â’i farwolaeth hyd yn oed yn anoddach, meddai rhieni Gary Speed.
Daethpwyd o hyd i hyfforddwr Cymru wedi ei grogi yn ei gartref yng Nghaer ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd ei dad Roger a’i fam Carol, sy’n byw yn y Fferi Isaf, Sir y Fflint, nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad beth oedd y tu ôl i’w farwolaeth.
“Mae wedi bod yn erchyll, yn gyfan gwbl erchyll,” meddai ei fam wrth bapur newydd y Western Mail.
“Does gennym ni ddim atebion a dydyn ni ddim yn gwybod pam. Roedd yn ddyn mor breifat.
“Pe bai gennym ni atebion efallai y byddai yn haws dod i delerau â’r peth, ond does gennym ni ddim byd.”
Ychwanegodd ei fam ei bod hi’n credu bod pwysau gwaith bod yn hyfforddwr a seren pêl-droed wedi effeithio arno.
“Fe fyddai yn well gen i petai wedi bod yn bostmon. Fe gafodd o fywyd da, ond un byr,” meddai.
“Pe bai wedi bod yn bostmon ni fydda hyn i gyd wedi digwydd.”
Dywedodd ei dad bod gwylio meibion Gary Speed, Ed, 15 , a Tommy, 14, yn tyfu i fyny a chwarae pêl-droed wedi bod o gymorth mawr iddo.
“Rydw i’n mynd a’r hogiau i’r gemau pêl-droed ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae Ed yn Wrecsam ac yn chwarae i Gymru felly mae’n brysur iawn,” meddai.
“Ond does gan Carol ddim byd i’w helpu hi. Dyw hi ddim yn gallu dod i delerau â’r peth o gwbl. Mae hi’n ei chael hi’n anodd iawn.”