Laura McAllister
Mae cadeirydd Chwaraeon Cymru wedi llongyfarch pencampwyr Paralympaidd Cymru, wedi iddyn nhw orffen y gemau â 15 medal.

Roedd hynny un yn fwy na lwyddon nhw i’w cipio yn Beijing yn 2008. Dywedodd y cadeirydd Laura McAllister mai’r nod oedd ennill pump arall yn Rio mewn pedair blynedd.

Roedd y nofiwr Ellie Simmonds, sy’n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe, hefyd wedi ennill tair medal ychwanegol, ond dyw hi ddim yn rhan o raglen Chwaraeon Cymru.

Dywedodd Laura McAllister bod athletwyr Cymru “wedi gwneud yn wych”.

“Rydyn ni wedi gorffen y bencampwriaeth ar 15 medal,” meddai. “Roedden ni wedi gosod targed o 20 ar gyfer y gemau eleni a Rio.

“Felly rydyn ni ar ein ffordd i daro’r targed hwnnw. Ond mae gennym ni darged mwy uchelgeisiol, sef ennill 30 medal dros gyfnod gemau Llundain a Rio.”

Dywedodd ei bod hi’n gobeithio y byddai’r Cymry yn tyrru i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener er mwyn cyfarch yr athletwyr.

“Y gobaith yw y bydd y cyhoedd yn cyrraedd er mwyn dathlu camp yr athletwyr yma,” meddai.

“Maen nhw wedi gweithio’n galed am bedair blynedd er mwyn cyflawni a dyw’r un ohonyn nhw wedi siomi Cymru na Tîm GB.”