Leinster 45 – 25 Dreigiau

Sgoriwyd wyth cais ac 70 pwynt ar ddydd Sadwrn braf o Fedi wrth i Leinster faeddu Dreigiau Casnewydd Gwent yn y Pro12.

Roedd y Dreigiau wedi gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Iwerddon ers 2008.

Ond fe wibiodd Leinster 26-13 ar y blaen ar ôl hanner amser diolch i geisiau gan Andrew Conway a Ben Marshall.

Sgoriodd Shane Jennings a Fionn Carr hefyd er mwyn sicrhau pwynt bonws i’r rhanbarth, ond fe darodd y Dreigiau yn ôl â cheisiau gan Dan Evans a rhyngipiad gan Steffan Jones.

Sgoriodd Tom Prydie gais yn ogystal â chicio dwy gôl gosb a dau drosiad i’w dim.

Daeth y cais olaf toc cyn y chwiban olaf wrth i Brendan Macken ryngipio pas Dan Evans i sgorio o dan y pyst.

Ciciodd Ian Madigan pedair gôl gosb a thri throsiad er mwyn pentyrru 18 pwynt i Leinster.