Mae arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi talu teyrnged i’r cyn-gynghorydd Roy Harries, sydd wedi marw yn 85 oed.

Roedd wedi bod yn aelod o Blaid Lafur Cwmaman yn hirach nag unrhyw un arall, ac roedd yn gyn-faer ar gyngor bwrdeistref Dinefwr.

“Mae’n anodd mesur ei gyfraniad at y gymuned leol,” meddai arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge.

“Roedd pentref Glanaman yn agos at ei galon ac roedd yn falch o allu cynrychioli dyheadau pobol leol.

“Roeddwn i’n ceisio ei efelychu yn ystod fy nyddiau cynnar mewn gwleidyddiaeth. Mae Dyffryn Aman a Glanaman yn dlotach nawr ei fod wedi mynd.”

Mae’n gadael ei wraig Estella, pedair merch, a phedwar o wyrion.

Bydd ei angladd yng Nghapel Bethania yng Nglanaman ddydd Mercher.