Neil McEvoy
Mae cyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd wedi beirniadu polisi Plaid Cymru ar fater Comisiynwyr Heddlu.

Bydd Neil McEvoy yn cefnogi cynnig yng nghynhadledd y Blaid y penwsos nesa’ i gael ymgeiswyr yn etholiadau’r Comisiynwyr, ac mae’n dweud ei fod yn awyddus i fod yn ymgeisydd.

Ond yn ôl Elfyn Llwyd “syniad Americanaidd” sy’ am wneud niwed i’r heddlu yw ethol Comisiynwyr.

Polisi presennol y Blaid yw peidio â chael ymgeiswyr swyddogol, ond yn ôl y Cynghorydd McEvoy mae’r arweinwyr yn bod yn “naïf i feddwl fod yr heddlu ddim yn wleidyddol”.

Dywed Neil McEvoy ei fod wedi cael digon o enwebiadau yn barod er mwyn sefyll am swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru, a’i fod yn gobeithio y bydd cynnig yn llwyddo yn y gynhadledd er mwyn ei gwneud yn bosib iddo sefyll yn enw’r Blaid.

“Os caiff y peth ei drafod yn y gynhadledd yna dw i’n bendant bydd pobol yn pleidleisio o blaid rhoi ymgeiswyr gerbron,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

“Dyw pobol ddim eisiau rhoi rhwydd hynt i Lafur gipio’r swyddi.

“Dw i ddim yn deall pam fod plaid sy’n ymgyrchu o blaid datganoli’r heddlu yn gwrthod cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth,” ychwanegodd McEvoy.

“Dyw Plaid Cymru ddim yn credu yn Nhŷ’r Arglwyddi ond dyw hynna ddim yn ein stopio ni rhag cael cynrychiolaeth yno.”

Elfyn yn anghydweld

Ond yn ôl Arweinydd y Blaid yn San Steffan maen nhw ar y trywydd cywir trwy beidio â chael ymgeiswyr swyddogol. Maen nhw’n annog cefnogwyr y Blaid i bleidleisio dros yr ymgeiswyr sydd am ddatganoli pwerau’r heddlu i Gymru.

“Mae’r Blaid wedi pleidleisio yn erbyn dod â gwleidyddiaeth i mewn i heddlua,” meddai Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd a llefarydd y blaid ar gyfiawnder.

“Mae angen adeiladu ar y berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu a bydd ethol pobol yn enw pleidiau ddim yn gwneud hynny.

“Pan ddaru’r llywodraeth cyn hon gyflwyno’r ASBO roedd pwysau ar Heddlu Gogledd Cymru i gyflwyno mwy o ASBOs, ac mae peryg y gwelwn ni fwy o ymyrraeth wleidyddol fel hyn.

“Syniad Americanaidd ydy ethol Comisiynwyr.”

Dywedodd Elfyn Llwyd y byddai ennill sedd Comisiynydd yn enw Plaid Cymru “ddim yn symud y ddadl ar ddatganoli’r heddlu yn ei blaen,” a dywedodd ei fod eisoes wedi rhoi tystiolaeth gerbron pwyllgor yn y Cynulliad yn cefnogi awdurdodaeth gyfreithiol  i Gymru.

Mae Plaid Cymru yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Aberhonddu ar Fedi 14 a 15 – dair wythnos cyn  y dyddiad cau ar Hydref 8 ar gyfer cofrestru pleidiau ar gyfer etholiadau’r Comisiynwyr.