Roedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn lloerig wedi iddi cael y sac o’r Cabinet wrth iddi weld y Prif Weinidog, David Cameron, yn “yfed gwin” ac yn “ymlacio”, yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd The Sun heddiw.

Mae hyn yn dilyn adroddiad ei bod hi’n un o dri gweinidog wnaeth lefain ar ôl clywed gan y Prif Weinidog David Cameron nad oedd lle iddyn nhw yn y cabinet yn dilyn yr ad-drefnu.

Dywed Downing Street bod yna alcohol yn yr ystafell, ond na fyddai’r Prif Weinidog wedi yfed yr un diferyn, oherwydd y byddai wedi bod yn “amharchus”.