Glyn Davies
Delio â’r tensiynau sydd yn codi rhwng Llundain a Chaerdydd fydd yr her fawr i Ysgrifennydd newydd Cymru, yn ôl un a fu’n gweithio yn Swyddfa Cymru yn ystod cyfnod Cheryl Gillan.

Yn ôl Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, gwneud yn siŵr bod gwleidyddion San Steffan a Chymru yn medru cydweithio yw’r peth pwysig i David Jones.

“Mae hyn yn digwydd ym mhob plaid. Mae tensiynau rhwng yr aelodau yn San Steffan, gwleidyddion yn San Steffan a gwleidyddion yng Nghymru,” meddai Glyn Davies.

“A beth sydd yn bwysig yw delio gyda’r tensiynau. Sdim pwynt trio smalio nad oes dim tensiynau o gwbl achos dyw hynny ddim yn wir.”

Mae’n dweud fod rhagflaenydd David Jones, Cheryl Gillan, wedi llwyddo yn effeithiol i wneud hynny ac mae’n cydnabod ei fod yn teimlo ‘dipyn bach yn drist’ ei bod hi’n gadael.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma