Mae Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Keith Davies wedi dweud bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau “yn rhy gyflym a chynnar”.

Prif bynciau’r cyfarfod oedd dyfodol Adran Damweiniau a Brys Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli a’r bwriad i wneud mwy o ddefnydd o ganolfannau iechyd cymunedol yn yr awdurdod.

Mae Keith Davies eisoes wedi datgan ei wrthwynebiad i ymgynghoriad cyhoeddus mor gynnar yn y broses ad-drefnu.

Ac fe ategodd ei wrthwynebiad wrth Golwg360 yn dilyn y cyfarfod diweddaraf neithiwr.

Pwnc arall a gafodd ei drafod oedd y bwriad i gau ysbyty lleol Mynydd Mawr oherwydd y nifer fach o wlâu sydd yno.

Mae pobl leol wedi datgan eu pryder am y pellter y bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i fynd i Ysbyty Tywysog Phillip.

Mae yna fwriad hefyd i agor cartref preswyl ar gyfer cleifion â dementia ym Mynydd Mawr, ond mae ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn talu am y gwasanaeth.

‘Rhy gyflym’

Dywedodd Keith Davies: “Mae angen cydweithio â’r Cyngor Sir – ai nhw fydd yn ariannu’r cartref gofal, pwy a ŵyr?”

Dywedodd: “Rwy’n becso bod Hywel Dda yn mynd o flaen pob bwrdd iechyd arall gyda’u cynlluniau nhw.

“Fe gawson nhw gyfarfod lansio ar Awst 6 ar gyfer yr adroddiad ‘Eich Iechyd, Eich Dyfodol’.”

“Ar y llaw arall, er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn aros tan i’r argymhellion fod yn glir cyn ymgynghori.”

“Y rheswm rwy’n credu bod Hywel Dda wedi dechrau ymgynghoriad yw eu bod nhw eisiau bod y cyntaf yna.

“Maen nhw’n mynd lawer rhy gyflym a rhy gynnar. Mae pobl Llanelli am gadw gwasanaethau fel y maen nhw, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer y galon a neo-natal.”

Ymateb Bwrdd Iechyd

Dywedodd Bruce McLernon, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu ystod o wasanaethau ar gyfer dementia.

“Mae’r gwaith hwn yn cael ei hwyluso gan adroddiad a baratowyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Archwilio Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyngor Iechyd Cymunedol a ffurfiodd weithgor i edrych ar y gwasanaethau cyfredol ac i gasglu tystiolaeth am yr hyn sydd ei angen er mwyn ateb y galw yn y dyfodol.”

Ac fe ddyweddod llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn cynnig buddsoddi yn ein gwasanaethau cymunedol ac mae rhan o hyn yn golygu darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol.

“Mae rôl allweddol wedi bod gan ein hysbytai cymunedol o ran darparu gofal iechyd. Mae rhai o’r adeiladu’n hŷn na’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac nid oes ganddynt y cyfleusterau i allu gweithredu fel ysbytai modern. Rydym am fuddsoddi £40 miliwn mewn Canolfannau Adnoddau Cymunedol newydd a fydd yn cael eu hadeiladu at y diben, ledled y tair sir, ac rydym yn datblygu timau cymunedol a rhith-wardiau a fydd yn dod â gofal yn agosach i bobl, yn eu cartrefi neu eu cymunedau eu hunain.

“Mae’r bwrdd iechyd yn glir na fydd newidiadau’n digwydd hyd nes bod gwasanaethau cynorthwyol newydd wedi’u sefydlu. Er enghraifft, bydd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn Ysbyty Mynydd Mawr ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn y dyfodol mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys gofal gwell i bobl eiddil a hen a chleifion â dementia yn Ysbyty Tywysog Philip, mwy o ofal y tu allan i’r ysbyty gan ein timau adnoddau cymunedol a thrwy’r Ganolfan Adnoddau Cymunedol newydd yn Cross Hands.”

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Bydd y cynlluniau i ad-drefnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael eu trafod mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Gymunedol Awelon yn Rhuthun heno, gyda’r pwyslais ar Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cymunedol y dref.

Dywedodd Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar: “Mae Ysbyty Cymunedol Rhuthun yn gwasanaethu poblogaeth wledig eang – byddai cau’r Uned Mân Anafiadau yn golygu lleihau mynediad cleifion i wasanaethau a byddai’n gorfodi pobl ddiniwed i deithio’n bellach i dderbyn gofal.”