Sean Morley
Mae myfyriwr 20 oed a oedd yn astudio yn Aberystwyth wedi ei ddarganfod yn farw ar ochr ffordd yn Swydd Warwick.

Bu farw Sean Andrew Morley, a oedd yn astudio hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn “digwyddiad ar yr A444 ger Nuneaton” ddydd Sul, medd heddlu’r ardal.

Mae’n debyg iddo gael ei daro gan gar.

Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau gyrru.

Roedd Sean Morley i fod i ddychwelyd i’w flwyddyn olaf yn y brifysgol yn hwyrach fis yma.

Teyrngedau

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “cyffwrdd calonnau pawb oedd wedi dod ar ei draws ac mi fydd yn golled enfawr.”

Chwaraeodd Sean Morley rygbi dros Glwb Rygbi Nuneaton yn ogystal â sawl tîm yn y Brifysgol.

“Roedd Sean Morley yn glyfar, yn frwdfrydig ac yn aelod poblogaidd o ddwy adran o fewn y Brifysgol – Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol,” meddai’r Athro Michael Foley a’r Dr Martyn Powell o Brifysgol Aberystwyth mewn datganiad ar y cyd.

“Yn benodol, roedd yn hoff o hanes America ac roedd disgwyl iddo arbenigo yn y maes hwn yn ei draethawd hir yn ei flwyddyn olaf,” ychwanegodd.

“Rydym yn ymestyn ein cydymdeimladau twymgalon i’w deulu yn ystod y cyfnod anodd yma.”