Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol ynglŷn â chynllun iaith mewn carchardai.
Gobaith Cynllun Iaith Gymraeg Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yw cael barn y cyhoedd am sut i wella gwasanaethau sylfaenol i garcharorion sy’n siarad Cymraeg.
Dywed yr ymgynghoriad fod y Weinyddiaeth yn “cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig i helpu darpariaeth ein gwasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon i bobol yng Nghymru.”
“Bydd y Cynllun yn sicrhau fod y cyhoedd yng Nghymru a charcharorion sy’n siarad Cymraeg yn cael mynediad i wasanaethau addas yn Gymraeg,” ychwanegodd y Weinyddiaeth.
“Mae’r ffaith fod gennym ni nifer o siaradwyr Cymraeg sydd ddim mewn carchardai Cymreig yn cymhlethu pethau.
“Rydym ni’n gobeithio felly y bydd pobol yn gallu ein helpu i wella ein hymdriniaeth ag elfennau Gwasanaethau Carchar y Cynllun,” ychwanegodd.
Jamie Bevan
Ymgyrch Jamie Bevan
Cafodd yr ymgyrchydd iaith, Jamie Bevan, ffurflen uniaith Saesneg i’w harwyddo er mwyn gadael carchar Prescoed ddiwedd fis diwethaf.
Gwrthododd yr ymgyrchydd iaith â’i harwyddo a chafodd wybod bod rhaid iddo ddychwelyd i’w gell.
Cafodd ei ryddhau ymhen hanner awr gyda sylw yn cael ei roi ar ei ffurflen adael yn nodi ei fod wedi gwrthod â’i llofnodi.
Roedd eisoes wedi treulio 17 diwrnod dan glo yng ngharchar Caerdydd a charchar agored Prescoed, ar ôl cael dedfryd o 35 diwrnod gan ynadon Merthyr Tudful am wrthod talu dirwy.
Yn ystod ei gyfnod yng ngharchar Caerdydd cwynodd Jamie Bevan am nad oedd ffurflenni dwyieithog ar gael i garcharorion, a honnodd ei fod wedi dioddef “rhegfeydd a bygythiadau agored” gan swyddogion y carchar am iddo fynnu gwasanaethau Cymraeg.
Dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg eu bod nhw yn y broses o ddelio gyda chŵyn Jamie Bevan ynghylch diffyg ffurflenni dwyieithog yng Ngharchar Caerdydd.