Fe  fydd ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon yn agor ei drysau  i ddisgyblion am y tro cyntaf heddiw yn Abertawe.

Mae Ysgol Gymraeg y Cwm yn rhan o raglen newydd Ansawdd mewn Addysg gan Gyngor Abertawe sy’n gobeithio mynd i’r afael â’r galw am lefydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion.

“Mae diwrnod cyntaf plant ifanc yn yr ysgol yn achlysur arbennig i rieni ond mae heddiw’n ddiwrnod bythgofiadwy gan fod Ysgol Gymraeg y Cwm yn agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf,” meddai’r cynghorydd Will Evans, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Dysgu a Sgiliau.

Galw am addysg cyfrwng Cymraeg

Mae’r ysgol ar hen safle Ysgol Gynradd y Cwm ym Monymaen.

“Bydd agor yr ysgol yma’n ein helpu i ddelio gyda’r galw am addysg cyfrwng Gymraeg a bydd hefyd yn golygu nad oes rhaid i blant deithio o’u cymunedau er mwyn mynd i’r ysgol gynradd Gymraeg agosaf,” ychwanegodd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y llwyth cyntaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd fel mae’r ysgol yn tyfu.”

Yn dilyn agor Ysgol Gymraeg y Cwm mae  nifer yr ysgolion cynradd cyfrwng Gymraeg yn Abertawe yn codi i 11 yn dilyn agoriad Ysgol Gyfun Gymraeg Tan-y-lan llynedd.