Tren Ucheldir Eryri (o wefan y cwmni)
Fe fydd trenau’n teithio ar hyd Rheilffordd Ucheldir Cymru am y tro cynta’ y penwythnos yma.

Fe fydd gweithwyr gwirfoddol y cynllun yn cael y cyfle cynta’ heddiw a theithiau cyhoeddus yn dechrau fory.

Mae’n ddiwedd ar gynllun gwerth £28 miliwn i agor y trac 28 milltir yr holl ffordd o Gaernarfon i Borthmadog, gan gysylltu gyda Lein Fach Ffestiniog yno.

Rhwng y ddwy, dyma’r rheilffordd fach fwya’ yng ngwledydd Prydain.

Harddwch

Fe gafodd pobol leol deithio dros ran ola’r rheilffordd i mewn i Borthmadog y penwythnos diwetha’.

Roedd yna rywfaint o wrthwynebiad gan ffermwyr a thirfeddianwyr pan ddechreuodd y gwaith ar y rheilffordd – mae’n mynd trwy rannau hardda’ Parc Cenedlaethol Eryri gan fynd heibio troed yr Wyddfa a thrwy Aberglaslyn.

Yn ôl y cwmni, fe fydd y rheilffordd yn cyfrannu tua £15 miliwn y flwyddyn i economi’r ardal.