Y Cyrnol Gaddafi

Mae degau o bobol wedi cael eu lladd wrth i brotestiadau barhau yn y gwledydd Arabaidd.

Fe fu’r lladd gwaetha’ yn Libya yng ngogledd Affrica, lle mae brwydro agored rhwng y gwrthdystwyr a’r lluoedd diogelwch, ac arwyddion bod y protestwyr yn ennill tir.

Yn ôl gwasanaeth newyddion y sianel Al Jazeera, mae un mudiad dyngarol yn dweud bod cymaint ag 84 wedi eu lladd.

Mae yna ragor o farwolaethau yn Bahrain yn y Dwyrain Canol hefyd ac o leia’ bump wedi eu lladd mewn protestiadau yn Yemen.

Democratiaeth a thegwch

Ym mhob un o’r gwledydd, mae’r gwrthdystwyr yn protestio am ragor o lais a democratiaeth ac am fwy o degwch ariannol.

Roedd y marwolaethau yn Libya yn ystod protestiadau mawr yn ail ddinas y wlad, Benghazi, a’r rheiny ar ôl angladdau gwrthdystwyr a oedd wedi cael eu lladd mewn digwyddiadau cynharach.

Roedd rhai ohonyn nhw wedi gorymdeithio at un o gartrefi’r Arlywydd Gaddafi ac wedi ceisio llosgi rhai adeiladau swyddogol a gorsafoedd heddlu.

Y gwrthdaro’n parhau

Mae’n ymddangos bod y gwrthdaro yn y wlad yn parhau, yn enwedig yn y dwyrain sy’n dlotach na gweddill Libya lle mae rhai’n elwa’n  fawr oherwydd olew.

Fe fydd y protestiadau’n broblem i wledydd y Gorllewin hefyd, gan eu bod wedi dod yn ffrindiau newydd gyda’r Arlywydd Gaddafi, sydd wedi bod yn unben yn Libya ers 1969.