Mae aelodau undeb Unite yn cynnal streic arall yng Ngwasg Gomer heddiw gan honni fod “diwylliant o fwlio” o fewn y cwmni.
Dyma fydd y drydedd streic i gael ei chynnal gan aelodau Unite yn y cwmni cyhoeddi o Landysul, ac mae’r aelodau hefyd wedi pleidleisio o blaid dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cyfarwyddwr Gomer, Jonathan Lewis.
Dywedodd David Lewis, swyddog rhanbarthol Unite, fod y “driniaeth ofnadwy a sbardunodd yr anghydfod” yn dal i barhau.
“Gan nad yw Gwasg Gomer wedi cymryd unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r diwylliant o fwlio yn y gweithle, nac wedi dangos parodrwydd i gyfarfod o amgylch y bwrdd, ni allwn weld unrhyw ddatrysiad cyflym i’r anghydfod,” meddai David Lewis.
“Nid yw ein haelodau yn fodlon goddef y driniaeth gywilyddus maent wedi ei derbyn, ac ni ellir datrys y mater hwn oni fydd y naill ochr a’r llall yn cyfarfod, a hynny heb fod unrhyw amodau wedi cael eu gosod ymlaen llaw.”
Mae gan Gomer tua 70 o staff, ac mae 16 ohonyn nhw’n aelodau o undeb Unite.
Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb gan Gomer i gyhoeddiad diweddaraf Unite.