Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews wedi lansio ymgynghoriad ar ddiwygio’r ffordd y mae dyddiadau tymhorau ysgol yn cael eu pennu yng Nghymru.
Dywedodd Leighton Andrews ei fod yn bwriadu lansio’r ymgynghoriad er mwyn darganfod ffyrdd o helpu teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan amrywiadau yn nyddiadau gwyliau’r ysgolion.
Ar hyn o bryd, does dim cysondeb yn nyddiadau gwyliau ysgolion cymunedol a’r ysgolion arbennig sy’n cael eu rheoli gan yr awdurdodau lleol unigol, a’r ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion meithrin sy’n cael eu rheoli gan y cyrff llywodraethu.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ceisio cysoni gwyliau’r amryw awdurdodau lleol yn y gorffennol, ond does dim cysondeb o hyd.
‘Costau ychwanegol‘
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o anawsterau sy’n cael eu hachosi gan y diffyg cysondeb, gan gynnwys gofal plant a’r costau sydd ynghlwm wrth y gofal hwnnw.
Mae’r adroddiad yn nodi gobaith Leighton Andrews o “osod dyletswydd gyfreithiol i gydweithio ar y sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldeb ar hyn o bryd am bennu dyddiadau tymhorau” er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru.
Yn ogystal, mae’n gobeithio cyflwyno deddfwriaeth er mwyn i weinidogion y Cynulliad ymyrryd os bydd angen cysoni dyddiadau.
Dywedodd Leighton Andrews: “Ar gyfer adegau pan nad yw hyn yn digwydd, neu ar gyfer achosion pan fo rheswm da dros feddwl bod angen addasu’r dyddiadau y cytunwyd arnynt, rwyf yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd er mwyn sicrhau bod dyddiadau priodol yn cael eu pennu.”