Simon Richardson
Mae ffermwr a chwalodd freuddwyd athletwr Paralympaidd o Benybont-ar-Ogwr wedi cael ei garcharu heddiw am 18 mis.

Roedd Simon Richardson, a enillodd ddwy fedal aur ar y trac seiclo yn Beijing yn 2008, yn ymarfer ar gyfer Gemau Llundain pan gafodd ei daro ger Penybont gan fan Edward Adams.

Gyrrodd y ffarmwr 61 oed i ffwrdd gan adael Richardson gydag asgwrn wedi torri yn ei gefn ac anafiadau i’w ysgyfaint a’i berfeddyn.

Gyrrodd Edward Adams adre i’r Bontfaen ac arllwys gwydraid o wisgi mewn ymgais i guddio’r ffaith ei fod wedi bod yn yfed cyn y gwrthdrawiad, clywodd Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd Edward Adams ei ganfod yn euog ar 9 Awst ac wrth ei ddedfrydu heddiw dywedodd y barnwr Daniel Williams fod Adams heb ddangos cydymdeimlad tuag at ei ddioddefwr, na chwaith wedi arddangos yr un urddas a ddangosodd Simon Richardson.

“Roedd Mr Richardson yn weledol ac yn amlwg – yn seiclo’n agos i’r ochr ac yn gwisgo dillad llachar,” meddai’r barnwr wrth Adams.

“Roedd eich honiadau eich bod chi wedi cael eich effeithio gan disian a haul yn anwiredd.

“Ni allai’ch ymateb chi i’r ddamwain a’i ganlyniad fod yn fwy gwahanol i ymateb y dyn a anafoch chi

“Cymroch chi’r cyfle i adael y safle  – gan wybod eich bod chi wedi achosi damwain,” meddai Daniel Williams wrth Edward Adams.

Ddoe roedd Simon Richardson yn un o gludwyr y fflam Baralympaidd yn Llundain, ond ni fydd yn cystadlu o ganlyniad i’w anafiadau.