Scott Sinclair
Yn ôl adroddiadau bore ma, mae Manchester City wedi cytuno i dalu £6.2 miliwn am asgellwr Abertawe Scott Sinclair.
Dim ond blwyddyn oedd ar ôl o’i gytundeb gyda’r Elyrch, ond fe benderfynodd Cadeirydd y clwb, Huw Jenkins i’w ryddhau.
Roedd Sinclair wedi cytuno i symud i Man City, ond mae llawer yn credu y gall y cyfleoedd yno fod yn gyfyng dan reolaeth Roberto Mancini. Fe fydd yn arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda’r clwb.