Bydd y ffagl Baralympaidd yn cyrraedd Abertawe heddiw fel rhan o’r daith o amgylch Cymru i nodi dechrau’r Gemau yn Llundain yfory.

Am 12.30yh bydd athletwyr anabl yn dechrau ras gyfnewid fer ar draws y ddinas, gan ddechrau yn y ganolfan ddinesig a gorffen yn y ganolfan hamdden am 4.30yh.

Yna, bydd y ffagl yn cael ei chludo heibio’r Pwll Nofio Cenedlaethol a Chlwb Rygbi Dyfnant.

Mae’r fflam wedi’i gymryd o’r pair yng Nghaerdydd a gafodd ei gynnau ddoe.

Bydd nifer o weithgareddau gwahanol yn cael eu cynnal yn Abertawe fel ras feics a rasys nofio.

Roedd dros 60,000 o bobol wedi dod i Abertawe i weld y ffagl Olympaidd yn pasio cyn y Gemau nôl ym mis Mai.

Cafwyd digwyddiadau tebyg ym Mae Colwyn a Conwy pan gludwyd y fflam o Gaerdydd ar hofrennydd.

Nos Lun, bu cannoedd yn ymweld â Bae Caerdydd i weld Gŵyl y Fflam, gyda ras gyfnewid fer a chyngerdd.

Bydd rhai ffyrdd yn Abertawe yn cau oherwydd y dathliadau.