Michael Laudrup
Mae Michael Laudrup yn dweud y buasai wrth ei fodd yn cyrraedd Wembley efo tîm Dinas Abertawe ond mai parhau i chwarae’n dda ac ennill yw ei nôd yn y tymor byr.

Ers i’r gŵr o Ddenmarc gychwyn fel rheolwr yr Elyrch mae’r tîm wedi curo QPR a West Ham gan sgorio wyth gôl a chyrraedd yr ail safle yn nhabl y Prif Gyngrhair.

Dywedodd Laudrup  ei fod eisiau curo Barnsley yn nghystadleuaeth Cwpan Capital One dydd Mawrth nesaf cyn mynd yn ei flaen i guro Sunderland mewn gêm gyngrhair dydd Sadwrn.

Ychwanegodd ar y llaw arall y buasai yn falch o gyrraedd gêm derfynol y cwpan yn Wembley yn enwedig gan ei fod ef yn un o dîm Barcelona gurodd Sampdoria i ennill Cwpan Ewrop yn 1992 ar yr hen safle a bod Abertawe wedi curo Reading ar y safle newydd yn 2010.

Mae’r cefnwr Ben Davies 19 oed yn debygol o chwarae yn erbyn Barnsely ar ôl cael ei alw ar y cae yn erbyn West Ham. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn arw i gael y cyfle i chwarae.

“Mae wedi bod yn gychwyn gwahanol iawn efo rheolwr newydd,”meddai. “Roedd hi’n anodd pan wnaeth Brendan Rogers adael ond mae Michael Laudrup wedi bod yn wych yn y sesiynau hyfforddi ac mae’n hawdd iawn deall ei dactegau o.”