Gavin Henson
Mae clwb rygbi Cymry Llundain wedi cadarnhau  na fydd Gavin Henson yn gallu chwarae i dîm Cymry Llundain am wythnosau ar ôl cael ei anafu wrth chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn y Scarlets yn Llanelli ddoe.

Torrodd asgwrn yn ei foch yn ystod tacl gan Deacon Manu yn ystod munudau cyntaf y gêm ar Barc y Scarlets ac fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau i chwarae ar ôl hanner awr.

Mae datganiad ar wefan clwb Cymry Llundain yn dweud y bydd yn ôl yn chwarae ymhen chwech wythnos.

Colli fu hanes Cymry Llundain yn y gêm a hynny o 23 i 17.

Chwaraewr yn yr Alban yn torri ei wddf

Yn y cyfamser mae’r chwaraewr rygbi Albanaidd Joe Ansboro wedi torri ei wddf mewn gêm gyfeillgar rhwng tîm Gwyddelod Llundain a Munster yng Nghorc.

Bydd yn gorfod gwisgo ffrâm fetel i ddal ei ben a’i wddf yn eu lle am dri mis ond mae ei dad wedi dweud wrth y BBC nad oes yna unrhyw ddifrod i’r nerfau.