Cafodd y fflam yn y crochan Paralympaidd yng Nghaerdydd ei chynnau y bore yma ar gychwyn diwrnod o ddathlu yn y brifddinas cyn i’r gemau gychwyn yn Llundain dydd Mercher.
Cafodd y ffagl Paralympaidd ei chynnau yng Nghymru ar gopa’r Wyddfa dydd Mercher diwethaf a’r crochan yng Nghaerdydd yw’r olaf i gael ei gynnau ar ôl i’r rhai yn Llundain, Belfast a Chaeredin gael eu cynnau dros y Sul.
Bydd y fflam yn cael ei chludo i wahanol rannau o’r brifddinas yn ystod y dydd a bydd cynrychiolwyr o Gonwy ac Abertawe yn cynnau lanterni oddi wrthi er mwyn mynd a’r tân adref ar gyfer eu dathliadau hwy.
Cafodd y fflam ei chynnau yng Nghaerdydd gan Simon Richardson, y para seiclwr o Borthcawl enilliodd ddwy fedal aur ac un arian yn y gemau yn Beijing yn 2008.
Bydd y dathliadau yn dod i ben ym Mae Caerdydd heno gyda gorymdaith cyn i’r ffagl gael ei chludo i Stoke Mandeville, catref ysbrydol y gemau Paralympaidd.