Carlton Cole
Mae dyn 22 oed wedi ei arestio heddiw wedi i drydar hiliol ymddangos ar Twitter yn dilyn gêm West Ham yn erbyn Abertawe neithiwr.

Roedd y negeseuon wedi eu hanelu at ymosodwr West Ham, Carlton Cole.

Methodd West Ham â sgorio yn ystod y gêm, wrth i Abertawe ennill 3 – 0 gartref, gan eu rhoi ar frig y gynghrair am gyfnod byr.

Arestiwyd dyn 22 o Southend yn Essex ar amheuaeth o drosedd hiliol dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus.

‘Niweidiol’

Cyfeiriodd y pêl-droediwr 28 oed at y neges at y rhwydwaith cymdeithasol Twitter ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe ddoe.

Roedd y neges yn beirniadu perfformiad y chwaraewr ac yn defnyddio gair hiliol i’w ddisgrifio.

“Dydw i ddim yn un am or-ymateb i hiliaeth ac rydw i’n deall y ‘banter’ sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn dan groen pobol,” meddai.

“Ond weithiau mae’n gallu gwneud niwed go iawn.

“Dydw i ddim yn pryderu os ydi rhywun yn dweud fy mod i’n bêl-droediwr gwêl. Ond does gan hynny ddim byd i’w gwneud â fy hil, na fy nghrefydd.

“Beth am ganolbwyntio ar y pêl-droed? Kapeesh?”