Roedd yn rhaid gohirio cic gyntaf un o gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru neithiwr oherwydd bod car wedi torri i lawr.

Mae Golwg 360 yn deall fod un o gôl-geidwaid y gêm rhwng Aberystwyth a’r Bala yn teithio yn y car a dorrodd i lawr. Does dim mwy o fanylion ar gael na hynny ar hyn o bryd, ond roedd yn rhaid i’r dorf ar faes y clwb yn Aberystwyth aros am chwarter awr hyd nes i’r gêm ddechrau. Mi wnaeth y gôl-geidwad ifanc James Wood chwarae ei gêm gyntaf yn y gôl i  Aberystwyth.

Gêm gyfartal 1- 1 oedd hi yn y diwedd. Sgoriodd Jordan Follows i Aberystwyth yn yr ail hanner ar ôl bron i awr o chwarae. Cafodd Conall Murtagh o’r  Bala ei anfon o’r cae yn ddiweddarach, ac yna wrth i ddeg dyn y Bala frwydro i aros yn y gêm, fe gawson nhw gic cosb a gafodd ei sgorio gan Connolly.

Dyw Golwg 360 ddim wedi darganfod sut wnaeth y gôl-geidwad deithio adref.