Mae storm drofannol wedi taro Haiti, ac mae mudiadau dyngarol yn poeni am  y trigolion sy’n dal i fod yn byw mên gwersylloedd dros dro ar ôl y ddaeargryn angheuol yno dwy flynedd yn ôl pan chwalwyd y brifddinas, Port-au-Prince.

Mae Canolfan Corwynt Cenedlaethol yr Unol Daleithiau wedi dweud y gall y glaw trwm achosi llifogydd a llithriadau mwd yn Haiti.

Mae’n bosib hefyd y bydd y storm yn cyrraedd Florida yn yr Unol Daleithiau.

Mae tua 400,000 o bobl yn byw yn y gwersylloedd yn Haiti, a does ganddyn nhw unman i gysgodi rhag y storm.