Mae myfyriwr sy’n byw yng Nghaerdydd wedi ymddangos yn yr Old Bailey heddiw ar gyhuddiad o droseddau terfysgol.

Mae Norman Idris Faridi, 31, wedi ei gyhuddo o feddu ar ddeunydd a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer terfysgaeth.

Ymddangosodd Faridi, sy’n byw ym Mhen-y-Wain, Cathays, trwy gyfrwng cyswllt fideo.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a’r dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer ei achos llys yw 3 Rhagfyr, un ai yn yr Old Bailey neu yng Nghaerdydd.

Mae Faridi yn dad i dri ac yn dod o Kenya yn wreiddiol ac yn fyfyriwr peirianneg awyrofodol.