Mae dyn 66 oed o Landudno wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ar ddau berson mewn tŷ yn y dref ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Ffordd Dulyn, Llandudno am hanner dydd ddydd Llun yn dilyn adroddiadau am ymosodiad.

Cafodd dyn a dynes, sy’n byw’n lleol, ac sydd yn eu 60au, eu cludo i’r ysbyty. Mae’r ddau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.