Ysbyty Treforys
Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod gydag anafiadau i’w ben ym Mhontardawe yn gynnar bore ʼma.

Mi wnaeth y dyn canol oed gael ei ddarganfod ar gornel Stryd y Gelynnen (Holly Street) a Ffordd y Gelli (Grove Road) ym Mhontardawe o amgylch 1.30 bore heddiw.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Treforys i dderbyn triniaeth am ei anafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad oedd hi’n glir sut yr oedd y dyn wedi cael ei anafu. Mae swyddogion yr heddlu yn disgwyl i gael gair gyda’r dyn am y digwyddiad.