Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi anfon ei ddymuniadau da i bob Mwslim wrth iddyn nhw ddathlu gŵyl yr Eid.

“Mae Eid al-Fitr, neu Ŵyl Torri’r Ympryd, yn nodi dechrau gwledd sy’n para tri diwrnod ac yn amser dathlu i’r Mwslemiaid,” meddai.

“Gallwn ni ymfalchïo yn y ffaith fod Cymru’n wlad sydd â hanes o groesawu gwahanol ddiwylliannau a chymunedau, ac o gyd-fyw’n heddychlon.

“Hoffwn i ddymuno’n dda i bob Mwslim yng Nghymru ac ar draws y byd a fydd yn ymgynnull i nodi diwedd mis o ymprydio a gweddïo.

“I bawb sy’n dathlu, rwy’n dymuno ‘Eid Mubarak’.”