Mae staff sy’n casglu tollau ar y ddwy bont sy’n croesi Afon Hafren wedi rhoi gorau i’w bygythiad i weithio yn ôl rheol o ddydd Mawrth nesaf.

Ond mae cynlluniau dal ar y gweill i gynnal streic 24 awr ar ddechrau Gŵyl y Banc y penwythnos nesaf.

Mi fydd trafodaethau yn parhau yn gynnar wythnos nesaf ac mae swyddogion yr undeb Unite wedi dweud eu bod nhw’n hyderus eu bod nhw’n agos at ddod i gytundeb â’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg y pontydd, Severn River Crossing (SRC).

Mae cyfrifoldeb ar y cwmni i gadw’r pontydd ar agor hyd yn oed petai streic yn digwydd.

Ym mis Gorffennaf fe bleidleisiodd tua 70 aelod o staff y pontydd o blaid gweithredu’n ddiwydiannol mewn ffrae am newid shifftiau. Mae’r rhain yn awr wedi cael eu dileu.

Mae swyddog rhanbarthol yr undeb, Jeff Woods, wedi dweud bod cynllun i gynnal streic dydd Gwener nesaf, Awst 24, dal mewn lle.