Bydd pedair o ffatrïoedd Remploy yng Nghymru, sy’n cyflogi gweithwyr anabl ar draws Prydain, yn cau heddiw gyda 189 o bobol yn colli’u gwaith.

Ffatrïoedd Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful a Wrecsam ac fe fydd un arall yn cau yn Abertawe cyn diwedd y flwyddyn.

Mae dwy ffatri arall a fu dan fygythiad – ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili – yn aros yn agored am y tro.

Yn ôl swyddog o undeb Unite , sydd wedi bod yn ymgyrchu i achub y ffatrïoedd, roedd y gweithwyr wedi eu trin “fel ŵyn i’r lladdfa”.

Streiciau

Yn gynharach eleni, cafwyd nifer o streiciau gan weithwyr y ffatrïoedd, o dan arweiniad yr undeb Unite, i ddatgan eu gwrthwynebiad i gynlluniau’r llywodraeth yn San Steffan. Mae deiseb hefyd wedi’i chyflwyno.

Mae cynllun newydd i helpu gweithwyr Remploy i ddod o hyd i waith eisoes wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn costio hyd at £2.4m y flwyddyn ac yn rhedeg am bedair blynedd.

Cafodd Remploy ei sefydlu yn wreiddiol yn 1945 er mwyn darparu gwaith i filwyr oedd wedi eu hanafu yn yr Ail Ryfel Byd.

‘Ergyd fawr’ – datganiad Llywodraeth Cymru

“Roedd y penderfyniad gan Lywodraeth y DU wythnos ddiwethaf i gau ffatrïoedd Remploy yng Nghymru yn ergyd fawr i’r gweithwyr a’u cymunedau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bwriad rydyn ni wedi cynnig nifer o opsiynau gwahanol iddi, gan gynnwys datganoli cyllideb Remploy a’u ffatrïoedd i Lywodraeth Cymru, ond gwrthododd ystyried ein cynigion.

“Rydyn ni wedi gweithredu’n gyflym i roi cymorth i’r gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi,” ychwanegodd y llefarydd.

“Mis diwethaf fe gyhoeddodd, y Gweinidog Addysg a Sgiliau bydd Grant Cymorth i Gyflogwyr ar gael i gyflogwyr potensial o weithwyr anabl Remploy a gollodd ei swyddi yn ystod 2012, yn ôl amodau a thermau’r grant.

“Bydd y cymorth yma yn darparu pecyn o gymorth ariannol am hyd at bedair blynedd i gyflogi gweithwyr anabl cymwys o Remploy.”