Ieuan Wyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi addo “adfer enw da Ynys Môn” wrth lansio ei ymgyrch ar gyfer etholiadau llywodraeth leol Ynys Môn sy’n cael eu cynnal ym Mai flwyddyn nesaf, heddiw.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC wrth lansio’r ymgyrch yn Sioe Môn mai Plaid yw’r unig blaid wleidyddol a all ddarparu tîm cryf i roi arweiniad cadarn i Ynys Môn.

Yn hytrach na chynnal etholiadau lleol ym mis Mai eleni, fel tir mawr Cymru, Lloegr a’r Alban, bydd pobl Ynys Môn yn ethol cynghorwyr yn 2013.

Daw’r penderfyniad yn dilyn oedi yn y broses o ail-wampio ffiniau wardiau’r ynys.

Mae Cyngor Ynys Môn bellach yn cael ei redeg gan bump comisiynydd yn hytrach na chynghorwyr yn dilyn blynyddoedd o anghydweld o fewn y cyngor sir.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones y byddai’r Blaid yn canolbwyntio ar roi sefydlogrwydd a thryloywder i’r Cyngor a chreu cyfleoedd i bobl ifanc i aros a gweithio ar yr ynys.

“Mae’n hen bryd cael Cyngor sy’n rhoi pobl Môn yn gyntaf- Cyngor y gallwn fod yn falch ohono gan ei fod yn gwasanaethu hyd orau ei gallu yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai Ieuan Wyn Jones, yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn.

“Mae Plaid yn barod i arwain ac i gymryd y cyfrifoldeb o adfer enw da Môn.

“Bydd ein tîm Plaid Cymru, ac ein hymgyrch, wedi’i wreiddio yng nghymunedau lleol Ynys Môn- gan adlewyrchu gwerthoedd pobl Môn, yn ogystal â’u huchelgais am economi cryfach a chymunedau gwydn.

“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn gwahodd pobl ar draws ye ynys i ymuno â ni a bod yn rhan o’r ymgyrch- i fod yn ymgeisydd yn etholiadau flwyddyn nesaf neu helpu yn eu cymunedau- rydym eisiau galluogi pawb ar yr ynys I fod yn rhan o’r ymgyrch.

Ychwanegodd Arweinydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Môn, Bob Parry, y bidden nhw hefyd yn canolbwyntio ar greu cyfleodd i bobl ifanc.

“Mae dyfodol Ynys Môn- yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol- yn dibynnu ar ein gallu i sicrhau bod gan bobl ifanc y cyfle i fyw a gweithio ar yr ynys,” meddai.

“Mae Plaid yn benderfynol o weithio gyda phobl Ynys Môn i sicrhau cyfleoedd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae rhaid i ni greu dyfodol cryf ar gyfer pobl yr ynys. Gyda’n gilydd, gyda help pobl Ynys Môn, mae Plaid yn barod i sicrhau bod gan y bobl Gyngor uchelgeisiol y gallent fod yn falch ohono unwaith eto.”