Gareth Jones
Mae’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am addysg yng Nghyngor Ynys Môn wedi dweud fod adroddiadau ei fod ef a chomisiynydd arall am golli eu swyddi yn “gwbl gamarweiniol a di-sail.”

“Cyn belled â dw i yn y cwestiwn mae hyn yn newydd llwyr, i’r graddau fy mod i’n cwestiynu ai anwiredd ydy o,” meddai Gareth Jones.

“Tasai’r newyddion yn swyddogol siawns y byddwn i a Margaret Foster wedi cael clywed,” meddai.

Mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei redeg gan bump Comisiynydd a gafodd eu penodi y llynedd gan y Gweinidog dros Lywodraeth leol, Carl Sargeant, er mwyn rhoi trefn ar weinyddiaeth y Cyngor.

Mae’r BBC wedi bod yn adrodd heddiw bod Gareth Jones a Margaret Foster am adael eu swyddi, gan adael tri chomisiynydd ar ôl.

“Mae’n sefyll i reswm na all y Comisiynwyr fod yma am byth, ond rhaid i’r Gweinidog fod yn argyhoeddedig fod y Cyngor yn barod ar gyfer newid lefel ein ymyrraeth ni,” meddai Gareth Jones wrth Golwg360.

Llai o Gomisiynwyr?

Ym mis Mai roedd Carl Sargeant wedi penderfynu ymestyn goruchwyliaeth y Comisiynwyr, tan fis Medi o leiaf, gan eu bod nhw wedi gwneud “cynnydd da”, a dywedodd ei fod yn barod i ystyried newid lefel ymyrraeth y Comisiynwyr os yw’r cynnydd yn parhau.

Heddiw mynnodd llefarydd ar ran y Llywodraeth nad yw’r sefyllfa wedi newid, a bod Carl Sargeant eisoes wedi dweud y byddai angen llai o Gomisiynwyr os yw eu rôl yn lleihau.

“Cafodd y Comisiynwyr eu hapwyntio er mwyn ateb ffaeleddau yng ngweinyddiaeth gorfforaethol y Cyngor, nid i redeg gwasanaethau penodol,” meddai’r llefarydd.

“Byddai unrhyw newidiadau yn adlewyrchu llai o rôl i Gomisiynwyr wrth gwblhau’r dasg sydd ganddyn nhw.”

Mae disgwyl i Carl Sargeant wneud datganiad ar y mater yn y Cynulliad ar ôl toriad yr haf.