Mi fydd dau o’r comisiynwyr sydd wedi eu penodi i reoli Cyngor Ynys Môn yn gadael eu swyddi ym mis Medi, yn ôl adroddiadau.

Mae Gareth Jones wedi bod yn gyfrifol am addysg, a Margaret Foster yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol, ers cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Penderfynodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, benodi pump comisiynydd i gynnal yr awdurdod y llynedd.

Fe fydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y cyngor yn dod i ben pan fydd etholiadau lleol yn cael eu cynnal yno yn 2013, flwyddyn ar ôl gweddill Cymru.

 

Adroddiadau

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am ymyrryd yn dilyn adroddiad damniol i wasanaethau addysg y cyngor.

Yn ôl Estyn, mae ansawdd yr addysg yn anfoddhaol gyda safonau yn is na’r disgwyl ym mhob rhan o’r gwasanaeth addysg. Mae’r adroddiad yn argymell bod angen “mesurau arbennig” ar yr awdurdod.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews a’r Gweinidog Llywodraeth leol a Chymunedau Carl Sargeant ddatganiad ar y cyd yn dweud y byddai bwrdd adfer arbennig yn cael ei sefydlu.

Fe fydd y panel ar y bwrdd yn adrodd yn uniongyrchol i’r gweinidogion ac yn darparu adroddiad misol.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru adroddiad beirniadol am Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr ynys.

Dywedodd yr adroddiad bod “methiannau difrifol” yn ymwneud â diogelu plant a bod angen rhagor o waith ymchwilio.