Rhaid gwella’r gwasanaethau cadair olwyn yng Nghymru trwy gynllunio yn fwy effeithiol a chyfathrebu yn well yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd adroddiad gyhoeddwyd ym mis Mai 2010 wedi dweud bod unigolion yn gorfod aros yn annerbyniol o hir am gadair olwyn ac mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach wedi cyhoeddi bod lle i wella eto ar y ddarpariaeth.

Yn ôl y pwyllgor, roedd cryn dipyn wedi ei gyflawni yn ystod y ddwy flynedd ers yr adroddiad gwreiddiol ond roedd gwendid o hyd yn y strategaeth gynllunio a dyw’r defnyddwyr ddim chwaith yn cael gwybod am y gwelliannau.

Mae’r pwyllgor yn awgrymu bod angen gwella’r gwasanaeth ar frys.

“Mae llawer o waith da wedi cael ei wneud ers i’r pwyllgor blaenorol gyhoeddi adroddiad,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Mark Drakeford AC. “Yn anffodus nid yw’r gwelliannau yma wedi cael eu cyfathrebu’n glir i’r byd ac mae angen gwella hynny,” ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cryn dipyn eisoes wedi ei wneud i ymateb i’r adroddiad gwreiddiol ac y byddan nhw’n edrych yn fanwl ar yr adroddiad diweddaraf gan ymateb i’r argymhellion.