Oliver yw’r enw mwyaf poblogaidd i fechgyn yng Nghymru a Lily yw’r enw mwyaf poblogaidd i ferched.

Dyna medd y Swyddfa Ystadegau, sydd wedi cyhoeddi’r enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer babanod a gafodd eu geni yn 2011.

Oliver, Jack a Jacob yw tri enw mwyaf poblogaidd y bechgyn tra bod Harry, yr enw mwyaf poblogaidd yn Lloegr, yn y seithfed safle yng Nghymru.

Lily, Emelia ac Ava yw’r tri enw ar frig rhestr y merched.

Mae yna enwau Cymraeg yn y 100 uchaf yng Nghymru – mae Dylan yn wythfed a Rhys yn 14eg, tra bod Seren yn seithfed ar restr y merched a Ffion yn 14eg.

Mae Osian, Owen, Jac, Tomos, Gethin a Cai yn ymddangos o fewn y 50 uchaf i fechgyn, tra bod Cerys a Carys o fewn 50 uchaf y merched.