Fferm wynt yn y môr
Mae un o’r cwmnïau sydd sydd y tu ôl i ddatblygiad Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd Cymru wedi dweud fod y fferm yn “brosiect allweddol i’r Deyrnas Unedig.”
Heddiw mae is-orsaf drydan 1,500 tunnell yn dechrau ar ei thaith dros y môr o Belfast i’r fferm wynt forol 8 milltir o’r Rhyl. Yn gynharach fis yma cafodd y ceblau cyntaf eu gosod a fydd yn anfon trydan o’r 160 tyrbein i’r arfordir rhwng Abergele a’r Rhyl.
Mae disgwyl i’r fferm wynt ddechrau cyflenwi trydan i’r Grid Cenedlaethol yn 2013, a dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Siemens Energy Transmission, sydd wedi creu’r is-orsaf drydan, fod Gwynt y Môr yn “brosiect allweddol i’r Deyrnas Unedig.”
“Mae’n dangos pa mor fywiog mae’r sector adnewyddol yn y DU ar hyn o bryd,” ychwanegodd John Willcock.
Bydd y tyrbeini yn mesur 150 medr o uchder a bydd y fferm wynt, sy’n cael ei arwain gan RWE Innogy, yn cynhyrchu 576MW o drydan – digon i gyflenwi un rhan o dair o dai Cymru yn ôl Siemens.
Mae RWE Innogy hefyd yn cynllunio fferm wynt oddi ar arfordir de Cymru. Bydd Atlantic Array yn cynnwys 278 o dyrbeini ym Môr Hafren ac yn cynhyrchu 90% o anghenion ynni cartrefi Cymru medd y datblygwyr.