Neil Kinnock
Mae un o gyn-elynion pennaf Plaid Cymru wedi galw ar aelodau Llafur i roi’r gorau i’r briffio’n negyddol yn erbyn Plaid Cymru yn y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad.

Yn ôl yr Arglwydd Kinnock, mae’n “ddyletswydd” ar y Blaid Lafur a Phlaid Cymru i gydweithio mewn cytgord er lles pobol Cymru.

“Fel y gwyddoch, roeddwn i’n wrthwynebus iawn tuag at y Glymblaid,” meddai cyn-arweinydd Llafur Prydain.

“Ond rwyf yn derbyn y realiti bod yn rhaid i lywodraeth weithio. Dyna oedd penderfyniad arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Rwyf yn parchu hynny, does dim ots faint yr wyf wedi dadlau yn ei herbyn.”

Roedd yr Arglwydd Kinnock yn siarad gyda chylchgrawn Golwg ar drothwy cynhadledd y Blaid Lafur Gymreig a fydd yn cael ei chynnal yn Llandudno dros y Sul.

“Ni thâl unrhyw bwrpas i gael anghydfod rhwng pleidiau’r glymblaid yn y Cynulliad. Caiff penderfyniad ei gymryd ym mis Mai, a bydd yr etholwyr yn trin y pleidiau yn ôl eu rhinweddau,” meddai.

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror