Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae cynghorydd wedi galw ar y 22 cyngor yng Nghymru i ddarlledu pob cyfarfod yn fyw ar y we.
Dywedodd Anne Blackman, cynghorydd annibynnol ar Gyngor Caerffili, ei bod hi wedi gweld ei chyd-gynghorwyr yn disgyn i gysgu yn ystod cyfarfod ar adegau.
Fe fyddai darlledu’r cyfarfodydd yn eu hannog nhw i dalu sylw, yn ogystal â rhoi cyfle i’r cyhoedd nad oedd yn gallu bod yn bresennol gadw llygad ar beth oedd yn digwydd.
“Fe fyddai darlledu’r cyfarfodydd yn annog rhai cynghorwyr llai astud i dalu sylw. Roedd un ohonyn nhw’n rhochian pwy ddiwrnod.
“Mae’n bechod bod cyn lleied o gynghorau yn cynnig darllediadau byw o’u cyfarfodydd,” meddai Anne Blackman wrth bapur newydd y Western Mail.
“Rydw i’n gwybod bod siambr cyngor newydd Caerffili yn Tredomen eisoes yn gallu cynnig gwasanaeth o’r fath.
“Rydw i’n siŵr y byddai pobol â diddordeb yn y trafodaethau cyllidol – eu harian nhw sy’n cael ei wario, wedi’r cwbl.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, yn cefnogi darlledu cyfarfodydd ar y we.
Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi bod yn darlledu eu cyfarfodydd llawn ers mis Medi 2008.