Jade Jones
Neithiwr fe lwyddodd y Gymraes Jade Jones i gipio medal aur yn y Gemau Olympaidd – yr ieuengaf erioed o Gymru i wneud hynny.

Mi wnaeth hi orchfygu Hou Yuzhuo o China – y gwrthwynebydd oedd wedi ei threchu ym Mhencampwriaethau Taekwando’r Byd y llynedd.

Mi ddywedodd y ferch 19 oed o’r Fflint ei bod am i fwy o bobol fynd ati i roi cynnig ar ei champ.

“Roedd yna bwysau mawr ar y tîm taekwando i wneud yn dda yma, oherwydd ein potensial,” meddai Jade Jones.

“Fy ngobaith nawr yw y bydd mwy o bobol yn dechrau gwneud taekwando.”

‘Ysbrydoli cenhedlaeth’ ydy arwyddair Gemau Olympaidd Llundain, ac mae pob un sy’ wedi cystadlu ar ran Team GB wedi bod yn adleisio’r gri honno.