Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi fod cyn-fewnwr Cymru Rupert Moon wedi cael ei benodi yn bennaeth ar ranbarth datblygu’r Gogledd.

Bydd Rupert Moon yn gadael ei swydd fel Cyfarwyddwr Masnachol y Sgarlets ac yn symud i weithio ym mhrif ganolfan rygbi’r gogledd ym  Mharc Eirias, Bae Colwyn.

“Mae’n gyfle da ac yn her roedd rhaid i fi dderbyn gan fod tîm da mewn lle yn y gogledd a brwdfrydedd mawr am y gamp yno,” meddai Rupert Moon.

“ Roedd gadael y Sgarlets yn benderfyniad anodd i fi ond rwy’n falch o’r hyn wnaethon ni gyflawni ar adeg o newid ac ailstrwythuro.”

Y llynedd llwyddodd y Sgarlets i ddenu fwy o dorf yn y Rabo Pro 12 nag unrhyw ranbarth ar wahân i Munster a Leinster, a dywedodd Prif Weithredwr y Sgarlets Mark Davies fod cyfraniad Moon wedi bod yn allweddol i hynny.

Parc Eirias

Yn dilyn llwyddiant gemau Cymru dan 20 ym Mharc Eirias eleni, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Eirias fydd lleoliad holl gemau cartref y tîm yn y Chwe Gwlad am y tair blynedd nesaf.

Yn ystod tymor 2012/13 bydd tîm y gogledd, RGC 1404, yn chwarae yn adran gyntaf y Dwyrain am y tro cyntaf, ac mae cyn-brop Cymru Chris Horsman wedi ei benodi’n brif hyfforddwr.

Mae Damian McGrath wedi cael ei benodi’n rheolwr rygbi’r gogledd.