Huw Jones
O heddiw ymlaen fe fydd cyfle gan y cyhoedd i ddweud eu dweud am ddogfen allweddol  sydd yn amlinellu sut mae S4C a’r BBC yn bwriadu cydweithio yn y dyfodol.

Yn 2013, y BBC fydd yn ariannu’r rhan fwyaf o gyllid S4C ar ôl i’r ddau ddarlledwr ddod i gytundeb yn 2011 oedd yn nodi y byddai S4C yn parhau i gael annibyniaeth olygyddol ond y byddai yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC.

Mae’r ymgynghoriad yma, sydd yn para 10 wythnos, yn gofyn i’r cyhoedd ddweud os ydy’r ddogfen yn adlewyrchu yn gywir y cytundeb gafodd ei lunio yn 2011. Erbyn mis Rhagfyr mae disgwyl i fersiwn derfynol o’r ‘cytundeb gweithredol’ gael ei chyhoeddi.

‘Datrysiad i’r her’

Rhai o’r pwyntiau sydd yn cael eu cynnwys yn y ddogfen ydy’r dulliau mesur perfformiad fydd yr un peth rhwng y ddau gorff, swyddogaethau Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC a’r hyn y bydd S4C yn ei wneud efo’r arian.

“Mae o yn dangos, dw i’n meddwl, sut y mae’r ddau gorff wedi llwyddo i gael datrysiad i’r her sylfaenol ar y naill law o sicrhau annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod ymddiriedolaeth y BBC yn parhau i fod â’r cyfrifoldeb o fod yn gyfrifol am y defnydd a wneir o arian y drwydded deledu.

“Felly mae’r ddau beth yma wedi cael ei wynebu a’i datrys yn fy meddwl i,”meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Annibyniaeth

Dydy o ddim yn pryderu y bydd S4C yn cael ei draflyncu gan y BBC.

“Elfen sylfaenol yr annibyniaeth ydy bod gan Awdurdod S4C yr hawl i benderfynu ar rinweddau unrhyw gynllun newydd sydd yn cael ei roi gerbron a byddwn ni yn gwneud hynny ar sail ydy hyn o fudd i’r gwasanaeth ai peidio.”

Ac fe fydd S4C yn gwrando ar yr adborth y byddan nhw’n ei derbyn gan unigolion a grwpiau, meddai.

“Os oes yna sylwadau yn dod ymlaen i awgrymu, yn dangos sut nad ydy’r cytundeb yma yn llwyddo i gyrraedd ei amcanion, neu ei fod  yn ddiffygiol, yna mi fydd yn rhaid ystyried y rheini.”

‘Balans gorau posib’

Wrth siarad â Golwg yr wythnos hon dywedodd Elan Closs Stephens, sy’n gynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC a newydd ei phenodi yn aelod o Awdurdod S4C, ei bod yn hapus fod cydweithio yn bosib rhwng dau gorff sy’n cystadlu am wylwyr.

“Be’r ydan ni’n drio ei gael yn fan hyn ydy’r balans gorau posib mewn sefyllfa anodd, sef y balans rhwng cadw rhyddid [S4C] a’i annibyniaeth cyn belled â phosib, tra ar yr un pryd yn trio gwneud cyfiawnder gydag arian y drwydded a’r bobol sy’n talu’r arian hwnnw.”