Huw Jones
Fe fydd cyfle gan y cyhoedd i ddweud eu dweud am ddogfen allweddol sydd yn amlinellu’r berthynas rhwng S4C a’r BBC o heddiw ymlaen.
Yn 2013, y BBC fydd yn ariannu’r rhan fwyaf o gyllid S4C ar ôl i’r ddau ddarlledwr ddod i gytundeb yn 2011 oedd yn nodi y byddai S4C yn parhau i gael annibyniaeth olygyddol ond y byddai yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC.
Mae’r ymgynghoriad yma, sydd yn para 10 wythnos, yn gofyn i’r cyhoedd ddweud os ydy’r ddogfen yn adlewyrchu yn gywir y cytundeb gafodd ei lunio yn 2011.
Ac fe fydd S4C yn gwrando ar yr adborth y byddan nhw’n ei dderbyn gan unigolion a grwpiau meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
“Os oes yna sylwadau yn dod ymlaen i awgrymu, yn dangos sut nad ydy’r cytundeb yma yn llwyddo i gyrraedd ei amcanion neu ei fod yn ddiffygiol yna mi fydd yn rhaid ystyried y rheini.”