Bedwyr Rees o Langefni ydi enillydd Medal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, a hynny am ysgrifennu drama lwyfan wedi’i lleoli ar draeth Moelfre.
Mae’r ddrama yn rhoi mynegiant i sawl peth sydd wedi ei gnoi ers dyddiau ei blentyndod, meddai. Ar un wedd, mae’n stori plentyndod tri chyfaill yn ystod yr 1980au a’r 1990au. Yn raddol, maen nhw’n colli eu diniweidrwydd.
Ar wedd arall, mae’r ddrama’n ymwneud â “darfodedigaeth popeth” – cyfeillgarwch, ffydd, pentref ac iaith.