Ian Jones
Ar faes yr Eisteddfod heddiw dywedodd Prif Weithredwr S4C ei fod yn ystyried datganoli’r sianel ac agor lleoliadau yn y gorllewin a’r gogledd.

Wrth draddodi  Darlith Goffa Owen Edwards dywedodd Ian Jones ei fod yn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu tri lleoliad neu dair canolfan “rywbryd yn y dyfodol” yng Nghaerdydd, yn y gorllewin ac yn y gogledd.

“Ffolineb fyddai peidio trafod posibiliadau o’r fath os yw’r gwasanaeth yn mynd i elwa o hynny, ac os bydd y gynulleidfa’n teimlo rhagor o berchnogaeth drwy hynny ac y byddai’n gwneud synnwyr economaidd i wneud,” meddai Ian Jones.

‘Hyderus’

Mae S4C yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni a dywedodd Ian Jones ei fod yn “gwbl hyderus” am ddyfodol y sianel a bod gan Gymru lawer i ddathlu am berfformiad S4C dros y blynyddoedd.

Pwysleisiodd Ian Jones ddatblygiadau digidol megis Ti, Fi a Cyw, gwasanaeth sydd wedi ei anelu at rieni di-gymraeg a dysgwyr sy’n dymuno gwylio rhaglenni Cyw gyda’u plant, ac a gafodd ei lansio heddiw ar faes yr Eisteddfod.

Bydd ar gael o fis Medi ymlaen a bwriad S4C yw cynnig gwybodaeth ar ail sgrin fel bod teuluoedd yn medru ymuno yn hwyl y rhaglen gyda’u plant a chysylltu gydag eraill yn ystod y darllediadau.